Gwasanaeth Angladdol
Ar sail ein profiad fel Trefnwyr Angladdau rydym yn deall yn iawn fod cyfnod profedigaeth yn amser anodd iawn ac rydym am sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaeth personol a phroffesiynol bob amser. Rydym yn adnabod ein cymunedau ac wedi ymrwymo i gynnig gwasanaeth o'r safon uchaf. Ar sail gofynnion y teulu gallwn gynnig gwasanaeth traddodiadol neu gwasanaeth sydd yn cwrdd ac anghenion personol y teulu.
Mae O.G. Harries a'i Feibion a'r adnoddau i gynnig gwasanaeth llawn gan gynnwys :
Gwasanaeth 24 awr
Hers a Cherbydau Angladdol
Hers Ceffylau
Arch yn ol eich dewis ( derw, lliwgar, patrymog, basgedi, cardfwrdd a llawer mwy)
Capel Gorffwys lle gellir cynnal gwasanaethau teuluol
Blodau (o ddewis y teulu)
Taflenni Coffa (gellir cynnwys lluniau, arwyddlun, logo a llawer mwy)
Cynllun Trefniadau Angladdol
Cerrig Coffa
Rydym yn cynnig ein gwasanaeth mewn unrhyw ardal
Mae O.G Harries yn fusnes teuluol sefydlog sydd yn nodedig am ei wasanaeth personol ac rydym yn awyddus iawn i barhau i wasanaethu i'r safon uchaf, a hynny gyda pharch ac urddas.
Cyflawnir yr holl drefniadau mewn ymgynghoriad llwyr a chyson gyda teulu'r ymadawedig. Os ydych am drafod unrhyw fanylion neu am wybodaeth pellach ynglyn a'n gwasanaeth mae croeso i chi gysylltu a ni ar 01269 870350 neu drwy e.bost ar ogharries@hotmail.co.uk
